Ein bwriad
Credwn mai pobl yw’r eglwys ac nid adeilad. Yr ydym yn ceisio byw hyn allan trwy greu cymuned o ffydd sydd ddim yn dibynnu ar addoldy nac yn pwysleisio’r digwyddiad unwaith yr wythnos.
Yr ydym yn credu yn y Beibl, ac wrth i ni bregethu o’r Gair a thrafod y Gair yr ydym yn ceisio adeiladu eglwys sydd yn seiliedig ar y Gair.
Yr ydym yn mwynhau addoli ein gwaredwr Iesu Grist. Yr ydym yn treulio amser yn Ei addoli gyda’n gilydd gyda chymysgedd o’r hen emynau gwerthfawr a chaneuon cyfoes ac yn gweddïo fel unigolion ac fel grŵp.
Yr ydym yn ddisgwylgar. Yr ydym yn disgwyl i Dduw fod ar waith, trwy Ei Ysbryd, yn ein plith. Yr ydym yn disgwyl i Dduw ddod â phobl i fewn i berthynas gydag Ef, i’n helpu ni i dyfu yn y ffydd ac i agosau ato fe wrth i ni dderbyn Ei faddeuant, Ei gariad a’i holl fendithion anhygoel.
Yr ydym yn cymdeithasu, yn dysgu, yn trafod ac yn addoli gyda’n gilydd mewn cariad gan obeithio ein bod ni’n creu teulu o bobl sydd yn gymorth ac ysbrydoliaeth i’n gilydd.
Mae yna groeso enfawr i unrhywun sydd eisiau bod yn rhan o’r antur yma. Os ydych chi’n credu, newydd ddod i gredu neu just ddim yn gwybod eto.
Ni’n edrych ymlaen at gwrdd â chi!
Tipyn o’n hanes ni
Mae’r eglwys wedi bodoli am ychydig dros ddwy flynedd. Yr ydym yn cwrdd yn hen adeilad Capel Gomer yng Nghanol Abertawe. Mae yna griw ffyddlon wedi ei gasglu erbyn hyn ac yr ydym yn mwynhau oedfaon, astudiaethau a chymdeithasu gyda’n gilydd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yr ydym wedi gweld sawl Cristion yn ymuno gyda ni, rydym wedi gweld sawl un yn dod yn Gristnogion a sawl un y dangos diddordeb am y tro cyntaf. Ein gobaith i’r dyfodol yw i dyfu yn unigolion ac i dyfu fel cynulleidfa a chymuned gan ofyn i Dduw ar hyd y ffordd beth sydd gydag Ef ar ein cyfer ni.
Ein gweinidog - John Derek Rees
Fe ddaw Derek o Gaerdydd yn wreiddiol ac yna fe raddiodd yn Aberystwyth lle welodd fendith wrth arwain cenhadaeth gyffrous ymysg y myfyrwyr Cymraeg. Bellach mae Derek wedi cwblhau ei gwrs fel gweinidog o dan hyfforddiant yn Rhosllannerchrugog a chyn hynny roedd yn gweithio dan gyfarwyddyd y Parch. Meirion Morris yn Llansannan. Mae eisoes wedi profi llaw Duw yn ei weinidogaeth, ac rydym yn hyderus fod gan yr Arglwydd gynlluniau i ddefnyddio Derek a’i ddoniau er lles Ei Deyrnas yn Abertawe.
Undeb Bedyddwyr Cymru (www.buw.org.uk)
Mae’r eglwys yn aelod o Gymanfa Gorllewin Morgannwg ac felly Undeb Bedyddwyr Cymru. Y weledigaeth yw dychwelyd i batrwm gwreiddiol y Bedyddwyr pan oedd John Miles yn plannu eglwysi ar draws De Cymru. Roedd y capeli gwreiddiol yn frwd eu cenhadaeth, yn gadarn eu hathrawiaeth, yn Feibl-ganolog ac yn canolbwyntio ar bobl yn hytrach nag adeiladau. O ran strwythur roeddent yn hyblyg er mwyn sefydlu grwpiau newydd, roeddent yn ddisgwylgar a byddent yn profi nerth a gwaith yr Ysbryd. Y weledigaeth yw y bydd yr eglwys newydd yma yn ail-ddarganfod y wefr oedd yn y tir yn yr oes a fu.
Cymru Gyfan (www.cymrugyfan.org)
Mae’r eglwys yn un a gefnogir gan Cymru Gyfan – mudiad sydd yn bodoli i gefnogi eglwysi sydd yn trawsffurfio ac i gefnogi eglwysi sydd yn cael eu plannu o’r newydd. Mae’r mudiad yn gweithio’n agos gyda’r eglwys. Cefnogi ac nid rheoli yw’r bwriad pendant.



