BLOG GOMER - 11 / 01 / 2010
Bore Dydd Llun a fi ar fin mynd off i’r gym! Ma’r boi ma di neud rhaglen work out i fi ac ma fe’n hanner lladd fi! Mwy na hanner mewn gwirionedd! Ma mreichie i heb eu sythu ers dridie!
Nos Iau gafon ni sesiwn ar y drindod yn ein cyfarfod PYB. Nes i mwynhau paratoi a fi’n gobeithio nath pawb mwynhau y sesiwn gymaint a nes i. Odd edrych ar Dduw a deall ei fod ei bersonau mewn perthynas llawn cariad yn llesol iawn wrth i ni drafod ein perthynas ni gyda Duw. Mae gwybod bod fi’n rhan o’r berthynas yna yn newid pob dim. Mae fy mherthynas gyda Duw yn wan os ydw i’n edrych arno fe fel Duw yn y cefndir sydd yn taflu ei gariad o bellter.
Braf hefyd oedd cyfarfod Sul Gomer ddoe. Odd e’n braf cael cwmni Rhodri ac Eirian a ni’n edrych ymlaen at gweld mwy ohonyn nhw. Edrych on ni ddoe ar byw ar y graig a’r ffaith bod Iesu byth yn gadael fynd yn ystod y storm.
Exciting stuff wythnos yma hefyd yw bod YR ACHOS rhifyn 2 yn barod ac ar fin cael ei dosbarthu. Os hoffech gopi ebostiwch derek@abertawe.info . Ma fe’n awesome… Hefyd mae flyer newydd y capel yn barod ac wedi dod yn ol yn glossy i gyd o’r siop printers. Good stuff.
Wel trainers ymlaen amser shiftio’r pwysau lawr y leisure centre!
Derek
BLOG GOMER - 01 / 01 / 2010
Mae’n hen bryd i mi actually sgwennu rhywbeth ar y blog ma! A dyma’r cyfle perffaith tra fy mod i’n iste ma yn convertio itunes i mp3s! Mae’r cerddoriaeth ar shuffle a ma Huw Chiswell newydd gorffen canu bod rhywbeth o’i le ac wedi pasio’r baton i Less Than Jake ac ma nhw’n fy atgoffa bod rhan fwyaf o fy ffrindie ysgol yn metal heads.
Mae gymaint wedi digwydd ers Mis Medi. Fi just about wedi cadw fy siwrnal (blog papur) i fyny ac ar y dudalen cyntaf fi’n trio darllen fy llawysgrifen, “Duw sdim syniad da fi be dwi’n neud neu sut fi fod dechre...” Ac mae’n wir, fi dal ddim yn siwr sut ma’r holl bet wedi digwydd. Ond ma fe wedi. Ma Duw wedi bod yn anhygoel. Mae wedi bendithio mwy nag o’n i byth wedi disgwyl.
Ma Duw wedi anfon pob math o legend i sefyll da fi yn y capel newydd. Y gwirionedd yw ma nhw wedi dod yn ffrindie da ac ma gweld pobl o nghwmpas i yn excited am Dduw a’i waith yn anhygoel. Soi’n siwr be byse fi di neud os o nhw heb droi lan.
Ma gymaint o ddigwyddiadau cyffroes wedi bod gan cynnwys dechre cwrdd yn y dafarn, nosweithiau hwyr o weddi a 24 american yn troi lan i rhoi extreme makeover i’r capel. Ma’r holl beth wedi bod yn mad rush o fendithion a cyffro!
Tan tro nesa!
Derek




