02/11/2011 - C2 Radio Cymru
Neithiwr mi oedd ein gweinidog - Derek - ar Radio Cymru yn trafod ‘Crefydd’ ar rhaglen Nia Medi @ebion (atebion). Mi oedd y rhaglen ymlaen am ddwyawr gyda Derek yn ymateb i weithgarwch y Gorlan, i gyfarofdydd o Fwslemiaid yn Gaerdydd ac i gyfarfod Bwdaidd yn Rhuthun.
Mi oedd y rhaglen yn cyfle gwych i rhannu’r gwirionedd - mae nid crefydd sydd yn bwysig on perthynas personol gyda Iesu Grist - a hynnyw trwy derbyn ei faddeuant a ennillodd i ni ar y groes.
Yr ydym yn gobeithio bod pobl ifanc ar draws Cymru wedi clywed y newyddion da am Iesu Grist neithiwr.
22/10/2011 - Ordeinio Derek
Dyma adroddiad y Parchg Vincent Watkins, Pontlliw am yr achlysur:
Dydd o lawen chwedl oedd hon yn hanes ein brawd ifanc, John Derek Rees, ynghyd ag Undeb Bedyddwyr Cymru a Chymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg. O dan lywyddiaeth sicr y Bugail Henry Dunn Williams, llywydd y Gymanfa, cafwyd oedfa gofiadwy a bendithiol. Y Parchedig Peter Thomas, ein hysgrifennydd diwyd oedd yn gyfrifol am yr ordeinio, a gwnaed hynny gydag urddas a dwyster. Arolygwr annwyl ein Cymanfa, Y Parchedig D. Euros Miles a sefydlodd Derek fel ysgogwr cenhadol y Gymanfa. Roedd yr Urdd Weddi yng ngofal Gweinidog Eglwys Carmel, Y Parchedig H. Vincent Watkins. Ymatebodd Derek yn glir a gydag argyhoeddiad dwfn i’r ffaith fod Duw wedi ei alw i’r gwaith arbennig hwn.
Y pregethwr gwadd oedd y Parchedig Rhun Murphy sydd newydd ei ordeinio a’i sefydlu yn ardal Wrecsam, ac afraid dweud “Roedd yr Arglwydd yn bresennol”.
Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Menna Machreth Jones yn darllen 1 Timotheus 4 (6 - 16) a Gwnno Teifi, Eseia 40 (6 - 10) ac Aled Lloyd.
Gair ar ran Capel Gomer gan Meilyr ap Hywel, Huw Phillips a’r Parchedig Ddr Watcyn James. Gair ar ran capeli Ardal Abertawe gan Mr Rhodri Lewis.
Hefyd gair ar ran Undeb Bedyddwyr Cymru gan y llywydd, y Brawd Glyndwr Prideaux.
Gweddïau gan y Parchedig Rhys Llwyd a Dr Rhodri Glyn. Cymeradwyaeth gan y Parchedig David Ollerton.
Darllenwyd yr emynau gan Tomos Roberts , Emma a Sophie Skyrme, Rhys Tiplady a Caleb Hughes.
Diolchwn iddynt i gyd am eu cyfraniad gwerthfawr i’r Oedfa hon o foliant a diolch i’r Arglwydd ynghyd a’r band addoliad o dan arweiniad Glesni Evans ac i organyddes y dydd Mrs Joan Davies.
Gweinidog Emeritws Carmel, Y Parchedig D. Islwyn Davies, oedd yn gyfrifol am y fendith.
Wedi’r oedfa, aeth y dyrfa fawr i’r festri newydd i fwynhau gwledd o “Biblical Proportions” chwedl Derek, a mwynhau cymdeithas bellach wrth y byrddau.
Diolch i Mrs Eluned Evans a’i thîm a fu’n gweini gyda sirioldeb wrth y byrddau.
Edrychwn ymlaen fel Cymanfa, i weld adfywiad ymhlith ein heglwysi o dan arweiniad yr Ysbryd Glân drwy gyfrwng Derek, a’r Arglwydd Iesu yn cael ei ddyrchafu ymhlith mwy a mwy o bobl.
H. Vincent Watkins.
Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg
24/10/2011 - Noson Cyrri y bois
Noson Cyrru yng nghwmni Ian Hughes, Llanelli. Cyn eistedd lawr i wrando ar ein siardwr gwadd fe llwyddodd y boi i fwyta digonedd o gyrri - o fwyty indiaidd gorau Abertawe - popeth o Korma lan i’r cyrris poeth ar gyfer ‘y dynion go iawn’.
Fe gafon ni wledd o storiau am sut symudodd Duw ym mywyd Ian Hughes yn ystod ei amser ar yr HMS York a’i amser yn y llynges. Yr oedd yn anhygoel i wrando ar ei storiau am fynd a feiblau i Saudi Arabia ac am weddio yn y Missile Room!
Ni’n edrych ymlaen at ein nos nesaf!



