Pwy ‘di pwy?

John Derek Rees

Bydd yr eglwys newydd yn cael ei arwain gan John Derek Rees. Fe ddaw Derek o Gaerdydd yn wreiddiol ac yna fe raddiodd yn Aberystwyth lle welodd fendith wrth arwain cenhadaeth gyffrous ymysg y myfyrwyr Cymraeg. Bellach mae Derek ar fin cwblhau ei gwrs fel gweinidog o dan hyfforddiant yn Rhosllannerchrugog a chyn hynny roedd yn gweithio dan gyfarwyddyd y Parch. Meirion Morris yn Llansannan. Mae eisoes wedi profi llaw Duw yn ei weinidogaeth, ac rydym yn hyderus fod gan yr Arglwydd gynlluniau i ddefnyddio Derek a’i ddoniau er lles Ei Deyrnas yn Abertawe.

Undeb y Bedyddwyr

Mi fydd y capel yn cael ei noddi gan Undeb Bedyddwyr Cymru. Byddant yn cefnogi’r eglwys newydd, y tîm arweiniol a’r gynulleidfa yn ariannol ac o ran adnoddau. Y weledigaeth yw dychwelyd i batrwm gwreiddiol y Bedyddwyr pan oedd John Miles yn plannu eglwysi ar draws De Cymru. Roedd y capeli gwreiddiol yn frwd eu cenhadaeth, yn gadarn eu hathrawiaeth, yn Feibl-ganolog ac yn canolbwyntio ar bobl yn hytrach nag adeiladau. O ran strwythur roeddent yn hyblyg er mwyn sefydlu grwpiau newydd, roeddent yn ddisgwylgar a byddent yn profi nerth a gwaith yr Ysbryd. Y weledigaeth yw y bydd yr eglwys newydd yma yn ail-ddarganfod y wefr oedd yn y tir yn yr oes a fu.

Cymru Gyfan

Mae’r prosiect yn un a gefnogir gan Cymru Gyfan – mudiad sydd yn bodoli i gefnogi eglwysi sydd yn trawsffurfio ac i gefnogi eglwysi sydd yn cael eu plannu o’r newydd. Mi fydd y mudiad yn gweithio’n agos gyda’r eglwys newydd. Cefnogi ac nid rheoli yw’r bwriad pendant.